top of page
Search
  • becky

Sut mae cymunedau Cymru wedi arbed dros £60,000 ar ddim ond DWY eitem cartref

Ydych chi’n tybio weithiau pam brynoch chi’r darn drud yna o offer DIY rydych chi ond wedi’i ddefnyddio unwaith? Neu wedi gweld eich cymdogion allan yn torri’r lawnt ac wedi amau doethineb pawb yn y stryd yn meddu ar eu peiriant torri gwair eu hun?


Mae’r tîm yn Benthyg Cymru wedi bod yn gweithio ar ddull o helpu cymunedau i rannu adnoddau drwy fenthyg yn lle prynu, er mwyn arbed arian a lleihau eu hôl troed carbon yn ogystal â lleihau’r holl bethau yna mewn siediau a chypyrddau ledled y wlad.


Mae’r fenter gymdeithasol hon wedi bod yn cefnogi cymunedau i sefydlu rhwydwaith o ‘Lyfrgelloedd Pethau’ – mannau lle caiff pobl roi pethau sydd ganddynt ond ddim eu hangen a benthyg eitemau maen nhw eu hangen ond ddim yn berchen arnynt. Mae’r brwdfrydedd am y cysyniad hwn wedi tyfu’n aruthrol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i bobl chwilio am ffyrdd hawdd o fyw’n fwy cynaliadwy ac arbed arian ar yr un pryd.


Gydag 8 lleoliad ar agor ledled y wlad nawr a 10 arall ar y gweill, mae rhwydwaith Llyfrgelloedd Pethau Cymru wedi cofnodi 1681 o fenthyciadau rhwng Hydref 2021 a Mehefin 2022.




Mae Benthyg Cymru wedi cyfrifo bod cymunedau lleol, wrth fenthyg y ddwy eitem fwyaf poblogaidd – golchyddion pwysedd a glanhawyr carpedi – wedi arbed dros naw tunnell o garbon a mwy na £60,000.


Ac eithrio’r golchyddion pwysedd a glanhawyr carpedi, mae gan y mwyafrif o Lyfrgelloedd Pethau gannoedd o eitemau i’w benthyg, ac mae gan y rhwydwaith genhadaeth i wneud yn siŵr bod cymunedau yn gallu cael gafael ar y pethau mae arnynt eu hangen. Y tro nesaf byddwch chi’n hofran dros y botwm ‘prynwch nawr’, cofiwch chwilio rhwydwaith Benthyg Cymru i weld a allech chi fenthyg yn lle, gan helpu’r blaned yn ogystal â’ch poced.


Dwedodd Becky Harford, Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Benthyg Cymru:


“Mae cyflawniadau’r rhwydwaith wedi ein syfrdanu, ac mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau’r gwahaniaeth mae Llyfrgelloedd Pethau yn ei wneud i fywydau pobl.


Dwedodd un teulu wrthym ni na fydden nhw wedi gallu mynd ar wyliau os nad oedden nhw wedi cael benthyg offer gwersylla am gost isel.


Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol o wneud benthyg cost-isel yn fwy hygyrch i bawb yng Nghymru, ble bynnag maen nhw.”



bottom of page