Sbotolau ar Petha: O lechi i rannu – sut mae Petha yn dod â llyfrgelloedd pethau i ogledd Cymru
Updated: Nov 8, 2022
Mae rhwydwaith Benthyg Cymru yn estyn ar hyd a lled Cymru. Ym mlog cyntaf ein cyfres ‘Sbotolau’, rydyn ni’n edrych ar Petha. Gan weithio mewn cymunedau amrywiol yn y Gogledd, mae Petha yn unigryw oherwydd yn ogystal â gweithio efo cymunedau, maen nhw hefyd yn gweithio’n uniongyrchol efo partneriaid awdurdod lleol i ddod â benthyca i’r bobl.

Catrin Wager ydy Swyddog Datblygu Benthyg Cymru yn y gogledd a Chydlynydd Petha ym Mhartneriaeth Ogwen ac mae hi’n dweud mwy wrthyn ni am sut mae hyn yn gweithio a sut maen nhw’n defnyddio’r llyfrgell i rannu gwisgoedd ysgol.
Gosod yr olygfa
I fyny ym mynyddoedd niwlog Eryri, mae’r tirlun yn frith o domenni llechi, sy’n dod â’u harddwch creigiog eu hunain wrth atseinio diwydiannau’r gorffennol. Wedi eu cydnabod gan UNESCO yn ddiweddar fel safleoedd Treftadaeth y Byd, mae’r cymunedau llechi’n drefi a phentrefi sy’n gyfoethog eu hiaith a’u diwylliant, lle mae 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac mae yna ymdeimlad cryf o gymuned, â llawer ohonyn nhw’n arloesi mewn cynaladwyedd ar lawr gwlad.
O gynlluniau hydro ym mherchnogaeth y gymuned sy’n pweru cerbydau cymunedol, i gaffis, sinemâu a lleoliadau miwsig ym mherchnogaeth y gymuned, i erddi, perllannau a chynlluniau rhannu bwyd cymunedol, mae’r cymunedau llechi yma wedi dod i mewn i’r 21ain Ganrif gan ddysgu gwneud pethau drostyn nhw eu hunain. O fewn y tirlun yma y cafodd Petha ei eni – llyfrgell pethau sy’n cwmpasu tair o’r cymunedau llechi unigryw yma, sef Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.
Pwy di Petha?
Mae Petha yn deillio o bartneriaeth unigryw o fentrau cymunedol o’r enw Dolan, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol, a hon fydd Llyfrgell Pethau gyntaf Cymru i gael ei chynnal o fewn llyfrgelloedd cyhoeddus, sy’n berchen i’r awdurdod lleol. Ond nid yr awdurdod lleol sy’n arwain y prosiect; mae’n cael ei arwain, yn hytrach, gan bartneriaid cymunedol lleol o fewn pob un o’r cymunedau. Fel mae Catrin Wager, Cydlynydd Petha yn egluro
‘Mae’n bartneriaeth berffaith: mae rhedeg y prosiect mewn llyfrgell gyhoeddus yn golygu bod gennyn ni oriau agor rheolaidd, a bod staff sy’n medru cymryd cyfrifoldeb am tsecio eitemau i mewn ac allan, ond gan mai’r partneriaid cymunedol sy’n ei gyflenwi ar lefel leol, mae’n dod ag amrywiaeth a blas lleol a fasai’n cael ei golli petai dim ond yn brosiect awdurdod lleol. Mae’n adeiladu ar ethos wreiddiol llyfrgelloedd hefyd sef rhannu asedau ac adnoddau, a sicrhau bod eitemau’n hygyrch i bawb.’
Rhannu Gwisgoedd Ysgol

Prosiect sy’n amlygu manteision y math yma o bartneriaeth yw’r prosiect gwisgoedd ysgol a oedd ar waith yn Nyffryn Ogwen dros yr haf. Casglodd pob un o’r saith ysgol yn y gymuned wisgoedd ysgol di-eisiau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, ac aeth mannau cymunedol gan gynnwys y llyfrgell a’r ganolfan hamdden yn fannau casglu yn ystod yr haf. Cafodd y rhain eu casglu mewn biniau wedi eu darparu gan Gyngor Gwynedd, efo labeli a wnaed gan wirfoddolwr lleol yn y gofod gwneud cymunedol. Aeth tua 25 o wirfoddolwyr ati i olchi a diddoli gwisgoedd dros yr haf a chreu tua 200 o becynnau gwisg ysgol (y pecyn safonol ydy 1 siwmper efo logo, a 3 crys polo).
Mae’r gymuned yn berchen ar gynllun hydro lleol sy’n buddsoddi ei elw yn ôl i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned trwy gyfrwng Elusen Ogwen, a dalodd am fagiau ac offer i'r prosiect. Felly gall y pecynnau gwisg ysgol gael eu darparu ar fenthyciad hirdymor (1 flwyddyn) am ddim, a hynny mewn ffordd sy’n dileu stigma gwisgoedd ail law. Does dim angen profi angen am wisgoedd ysgol am ddim fel y byddech chi mewn ‘banc’ gwisgoedd ysgol; yn hytrach, ffocws y gwaith ydy atal y dillad rhag mynd mewn i'r ffrwd wastraff, ac mae nhw ar gael am ddim i unrhywun drwy eu archebu ar lein a’u casglu o’r llyfrgell.
Hyd yn hyn mae rhyw 70 o becynnau gwisg ysgol wedi cael eu benthyg, gan arbed tua £2,100 i drigolion ac arbed 750 cilo – (tri chwarter tunell fetrig) o garbon.
Beth nesa’?
Nid yw agor Llyfrgell Pethau ar y model yma’n gwbl ddi-drafferth gan fod cryn dipyn o fiwrocratiaeth ynghlwm wrth y math yma o bartneriaeth. Hyd yma, mae Petha wedi agor un o’r tair cangen ar sail treial a’r gobaith yw y bydd y lleill yn medru agor cyn hir. Ond, hefo 150 o aelodau a mwy na 150 o fenthyciadau ers i’r treial ddechrau yng nghanol Gorffennaf, mae Catrin yn ffyddiog y bydd Petha yn dod yn rhan o’r ffordd o fyw yn y cymunedau yma.
‘Mae perchnogaeth gymunedol a rhannu ein hasedau’n cynnig ateb i gynifer o’r argyfyngau sy’n ein hwynebu: amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Drwy rannu asedau, mi fedrwn ni greu cyfleoedd i ddod at ein gilydd, creu cymunedau cydnerth, a chymryd ein dyfodol i’n dwylo ein hunain. Mae Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog i gyd yn lleoedd lle mae ethos gymunedol yn gryf – rwy’n hyderus y gallwn gyd-weithio -i greu dyfodol disgleiriach i ni i gyd.’
Y Rhwydwaith
Mae Petha yn un yn unig o’r prosiectau sy’n rhan o Rwydwaith Benthyg Cymru. Os oes diddordeb gennych chi mewn sefydlu’ch llyfrgell pethau eich hun, neu’n rhedeg llyfrgell yn barod ac eisiau ymuno â’r rhwydwaith, cysylltwch â ni, bydden ni wrth ein bodd i glywed gennych chi. Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd rhwydwaith chwarterol lle cewch chi gwrdd â phobl eraill i rannu profiad a gwybodaeth, ac mae pecyn cymorth a chefnogaeth unigol ar gael.
E-bostiwch ni yn info@benthyg-cymru.org am ragor o wybodaeth