I ddod o hyd i'ch cangen leol, chwiliwch y map [yn dod yn fuan]:

Benthyg Cymru yw Llyfrgell Pethau Cymru ac mae ganddo un nod syml; i wneud benthyca mor hawdd â phicio allan am dorth o fara.
Fe'i sefydlwyd i ddarparu budd i gymunedau ledled Cymru trwy greu diwylliant o wytnwch a chynaliadwyedd amgylcheddol sy'n dod â chymunedau ynghyd i rannu eitemau, gwybodaeth a sgiliau.


Ein gweledigaeth yw creu rhwydwaith o Benthygs ledled Cymru gyda changen ym mhob cymdogaeth, felly ble bynnag yr ydych yng Nghymru, gallwch fenthyg beth bynnag sydd ei angen arnoch yn rhad ac yn hawdd. Ymhlith yr eitemau a fydd ar gael i'w benthyg mae offer garddio a DIY, offer gwersylla a llawer mwy, pob un ar gael i'w fenthyg am lai nag y byddech chi'n disgwyl ei dalu yn ail law, a chyda'r cyfle i dalu mewn pryd yn lle arian parod.